Trist i ni yma yng Nglwb Peldroed Tref Y Bala oedd clywed am farwolaeth Trevor Weston Edwards, 65 Blaen Ddol, neu yn hytrach ac i lawer ohonom "Trev West"
Bu yn was ffyddlon am gyfnod hir ar Faes Tegid yn twtio'r pafiliwn, glanhau ystafelloedd newid, a marcio'r cae cyn gemau.
Roedd yn gymeraid, a roedd ganddo ddawn dweud unigryw. Cydymdeimlwn a'r teulu oll yn eu colled.
Hir fydd y cof am Trev, Cwsg Yn Dawel.

Comments